Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:55 25/10/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ddwy drosedd dinoethiad anweddus ger Lerpwl yn rhyddhau delweddau mewn cysylltiad ag ef.
Am 2.55pm ar 10 Awst, fe wnaeth dyn a oedd yn eistedd ar draws o fenyw ifanc ar wasanaeth a oedd yn teithio rhwng Hamilton Square a Bache symud i eistedd yn union gyferbyn â hi a chyffwrdd ei hun yn amhriodol.
Ar achlysur arall am 3.11pm ar 1 Hydref, riportiwyd bod dyn yn cyffwrdd ei hun trwy ei bocedi trowsus wrth deithio ar drên rhwng Southport a Moorfields.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 349 o 01/10/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.