Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:53 23/11/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad pan wnaeth dyn gam-drin teithiwr arall yn hiliol yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Ychydig cyn 9.30yb ar 30 Hydref, fe wnaeth dyn ar fwrdd gwasanaeth rhwng Bradford a Leeds sylwadau hiliol i deithiwr arall.
Yna aeth yr arweinydd trên ati i ymyrryd, a gwnaeth y dyn sylw rhywiol amlwg iddi.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y delweddau fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 243 o 30 Hydref.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.