Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:23 13/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i drosedd dinoethiad anweddus yng ngorsaf West Sutton yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 4.08pm ar ddydd Gwener 9 Gorffennaf, daeth dyn oddi ar drên yng ngorsaf West Sutton a cherdded ar hyd y platfform. Safodd ar waelod y grisiau wrth i fenyw gerdded i lawr a'i ddinoethi ei hun iddi hi. Yna gadawodd ef yr orsaf.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 400 o 09/07/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.