Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:29 23/08/2022
Ydych chi'n adnabod y dynion yma?
Mae ditectifs yn ymchwilio wedi i swm sylweddol o gebl gael ei ddwyn o'r llinell Chiltern yn Tyseley, Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae swyddogion yn awyddus i siarad gyda'r dynion yn y delweddau gan mai'r gobaith yw y gallan nhw helpu gyda'r ymchwiliad.
Dros nos ar ddydd Gwener 5 Awst tua 2.50am mae troseddwyr wedi dwyn swm mawr o gebl o'r cledrau. Y gred yw bod y troseddwyr hefyd wedi dychwelyd i'r ardal tua 9.50am.
Achosodd y lladrad cebl oedi mawr i'r gwasanaeth rheilffordd i ac o Birmingham gan amharu ar deithio i'r rhai oedd yn mynychu Gemau'r Gymanwlad.
Mae ditectifs hefyd yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i unrhyw weithgarwch neu gerbydau amheus yn yr ardal neu unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad.
Os ydych yn adnabod y dynion neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 52 5 Awst.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.