Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:41 04/01/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf Temple Meads Briste yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 7.45pm ar ddydd Sul 11 Gorffennaf, aeth dyn at ddyn a oedd yn teithio ar drên i Temple Meads Bryste gan geisio dechrau sgwrs.
Wrth iddo fynd oddi ar y trên, fe wnaeth y dyn ei benio a'i daro dro ar ôl tro cyn rhedeg allan o'r orsaf.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 520 o 11/07/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.