Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:56 16/03/2021
Ydych chi'n adnabod y dynion hyn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i nifer fawr o ymgeisiau i ladrata ar y London Underground yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad â nhw.
Ar ddydd Iau 31 Rhagfyr 2020 tua 2pm, aeth dau ddyn at y dioddefwr ar blatfform llinell Victoria yng ngorsaf Underground Oxford Circus.Dywedodd un o’r dynion “rhowch eich ffôn i mi” cyn ceisio ei gipio o law’r dioddefwr, fodd bynnag llwyddodd y dioddefwr i ddianc
Yna aeth y ddau ddyn ar fwrdd gwasanaeth llinell Victoria a mynd at ddau ddioddefwr arall gan fygwth trais a mynnu eu ffonau
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dynion yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n eu hadnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 199 o 31/12/20.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.