Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:38 30/03/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i adroddiad o drosedd trefn gyhoeddus a waethygir yn hiliol ar drên o Liverpool Street yn rhyddhau'r delweddau hyn mewn cysylltiad ag ef.
Ar 4 Rhagfyr yn fuan ar ôl 6pm, roedd y ddioddefwraig yn teithio ar drên o Liverpool Street gyda'i phlant, pan ddechreuodd dyn wneud sylwadau hiliol difrïol tuag ati.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd CCTV wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 154 o 06/12/21.
Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.