Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:58 25/01/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i achos o sarhad homoffobig ar drên o Leeds i Sheffield yn rhyddhau'r ddelwedd teledu cylch cyfyng hon mewn cysylltiad ag ef.
Tua 9.30pm ar ddydd Mercher 29 Rhagfyr, dechreuodd ffrae rhwng dyn a dyn ifanc ar y trên. Ymyrrodd grŵp o ddynion ifanc, ac aeth y dyn ymlaen i wneud sylwadau homoffobig iddynt am y dyn ifanc.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 54 of 29/12/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.