Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:54 19/04/2021
Heddiw mae ditectifs sy’n parhau i geisio adnabod dyn a fu farw ar y rheilffordd yn agos at orsaf Mortlake yn rhyddhau’r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Ar ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020 yn fuan wedi 10am, galwyd swyddogion at y llinell rhwng Mortlake a North Sheen yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau. Fe wnaeth parafeddygon fynychu hefyd ond yn anffodus datganwyd bod y dyn wedi marw yn y lleoliad.
Mae swyddogion yn dal i weithio i sefydlu’r amgylchiadau llawn y tu ôl i farwolaeth y dyn. Er gwaethaf nifer o ymholiadau helaeth, maent wedi dal i fethu ei adnabod a hysbysu ei deulu.
Disgrifir y dyn fel dyn du, rhwng 20 a 40 oed, â gwallt byr du ac o gorffolaeth main a thaldra byr. Roedd yn gwisgo Crys Polo gwyrdd nodedig ag addurn gwyn ar y breichiau a thestun yn darllen “Sulid Supra Used High Motor Motorcycle Parts.” Roedd hefyd yn gwisgo trowsus du, gwregys lledr du a watsh oren a du. Yn nodedig, nid oedd y dyn yn gwisgo hosanau nac esgidiau.
Heddiw mae swyddogion yn rhyddhau'r argraff hon gan yr arlunydd o’r dyn yn y gobaith y gallai gynorthwyo yn eu hymdrechion i’w adnabod.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 140 o 14/12/20.