Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:31 27/09/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol difrifol wedi rhyddhau delwedd mewn cysylltiad ag ef.
Rywbryd rhwng 11.30pm ar ddydd Llun, Awst 15 a 1.30am ar ddydd Mawrth, 16 Awst, roedd y ddioddefwraig yn teithio ar fws amnewid am y rheilffordd o orsaf Manceinion Oxford Road a oedd yn mynd i orsaf Lime Street Lerpwl pan ymosodwyd arni'n rhywiol.
Gadawodd y dyn y bws yng ngorsaf Warrington West.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod anfonwch neges destun i 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 075 o 16/08/2022. Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.