Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:23 05/08/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn ifanc hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad o ddifrod troseddol yng ngorsaf Caerliwelydd yn rhyddhau'r ddelwedd CCTV hon mewn cysylltiad ag ef.
Tua 5pm ar ddydd Sul 27 Mehefin, fe wnaeth dyn ifanc gicio a tharo rhwystr maes parcio yng nghefn gorsaf Caerliwelydd. Tynnodd rannau o'r peiriant i ffwrdd hefyd, gan achosi difrod gwerth dros £5,000.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn ifanc yn y ddelwedd teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100047124 27/06/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.