Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:46 22/11/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol a throsedd dinoethiad anweddus ar wasanaeth DLR ger gorsaf Royal Victoria heddiw yn rhyddhau delweddau mewn cysylltiad ag ef.
Am 10.25pm ar ddydd Llun 17 Hydref fe wnaeth y ddioddefwraig fyrddio'r trên yng ngorsaf DLR Royal Albert pan eisteddodd dyn gyferbyn â hi a dechrau siarad â hi. Yna fe ymosododd arni'n rhywiol.
Wedi iddi herio'r dyn, symudodd i sedd ar draws yr eil oddi wrthi a dinoethi ei hun o'i blaen.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y delweddau fod â gwybodaeth allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 691 o 17/10/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.