Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:03 25/11/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad anweddus ar fwrdd trên a oedd yn teithio rhwng Leeds a Bradford yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am oddeutu 7pm ar ddydd Sadwrn 23 Hydref, aeth dyn at y ddioddefwraig a'i phartner a dweud wrthi ei bod hi'n bert.
Yna eisteddodd ar y sedd y tu ôl iddynt ac ychydig yn ddiweddarach gwelodd y ddioddefwraig ei fod yn mastyrbio.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2100079669.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.