Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:45 22/09/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i drosedd dinoethiad ar fwrdd trên a oedd yn teithio o Gatwick i orsafoedd rheilffordd Hitchin yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Tua 7pm ar ddydd Sadwrn 27 Awst, eisteddodd dyn ger merch 14 oed a'i mam ar fwrdd y trên.
Yn ystod y daith fe wnaeth y dyn ddinoethi ei hun yn amhriodol i'r ferch 14 oed wrth syllu arni. Wynebodd mam y ddioddefwraig y dyn, a gododd wedyn a cherdded i ffwrdd.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 548 o 27 Awst.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.