Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:56 04/01/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Cwmbrân yn rhyddhau’r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am ychydig ar ôl 7pm ar ddydd Mercher 21 Hydref 2020, roedd y dioddefwr yn cerdded i lawr y platfform yng ngorsaf reilffordd Cwmbrân pan ddaeth dau ddyn ato. Gofynnodd un o’r dynion am ddefnyddio taniwr sigaréts y dioddefwr ac fe wynebodd y llall y dioddefwr cyn ymosod arno
Parhaodd y ddau ddyn i ymosod ar y dioddefwr ar blatfform yr orsaf a gwthiodd un ohonynt fam y dioddefwr i’r llawr pan geisiodd helpu ei mab.
Diolch byth, ni anafwyd y naill ddioddefwr na'r llall yn ddifrifol.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y ddelwedd wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 505 o 21/10/20.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.