Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:48 19/08/2022
Mae swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn atgoffa pobl i feddwl am ddiogelwch eu ceir ac eiddo cyn eu gadael wedi'u parcio mewn meysydd parcio gorsafoedd rheilffordd.
Ers mis Mehefin, ar draws De Birmingham fe fu cyfres o droseddau sy'n gysylltiedig â cherbydau mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae'r troseddau'n cynnwys saith lladrad o gerbydau a phedwar lladrad oddi wrth gerbydau mewn llond llaw o orsafoedd sef Kings Norton, Northfield, Rowley Regis a Yardley Wood.
Mae gweithrediadau ar y cyd yn parhau rhwng BTP a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, bydd swyddogion mewn gorsafoedd yn defnyddio sawl tacteg ac arbenigedd, gan ryngweithio â'r cyhoedd a chynnig sicrwydd i deithwyr.
Rydym yn annog gyrwyr i ystyried mesurau diogelwch ychwanegol ar gyfer eu cerbydau wrth barcio, gan gynnwys cloeon llywio a llonyddwyr peiriannau. Yn enwedig rhai sydd â cherbydau perfformiad uchel mwy dymunol er mwyn ceisio atal lladron.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Paul Finlayson "Rydym yn deall y pryder a'r rhwystredigaeth y mae'r troseddau hyn yn eu hachosi i unigolion. Er mwyn mynd i'r afael yn gadarn â'r troseddau hyn mae arnom angen i chi ein helpu, trwy fod yn llygaid a chlustiau yn y gymuned a riportio unrhyw weithgaredd amheus mewn meysydd parcio gorsafoedd ar unwaith.
"Rydym yn gweithio'n agos yn barhaus gyda lluoedd lleol ac unedau plismona ffyrdd arbenigol i fynd i'r afael â throseddau cerbydau. Gall y rhai sy'n cyflawni'r troseddau ddisgwyl cael eu dal neu eu deffro gan gyrchoedd yr heddlu yn gynnar yn y bore am eu gweithredoedd."
Os ydych yn gweld neu'n clywed unrhyw beth amheus wrth ddefnyddio'r rheilffordd, tecstiwch BTP ar 61016 neu ffoniwch 0800 40 50 40.