Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:14 11/02/2022
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth ar ôl i wrthrych gael ei daflu ar drên yng ngorsaf Clifton, gan arwain at y gyrrwr yn mynd i'r ysbyty.
Am 8pm ddydd Gwener 4 Ionawr, cafodd ffenestr flaen y trên a oedd yn mynd drwy'r orsaf ei chwalu gan wrthrych y credir ei fod yn fric neu'n garreg, wedi'i daflu gan rywun ar y platfform neu'r bont.
Fe gafodd y gyrrwr ei daro gan ddarnau mân o wydr, ac fe aeth i'r ysbyty am driniaeth i anafiadau i'w lygaid a'i wyneb. Diolch byth, mân anafiadau oedd ganddo.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo eu hymholiadau.
Dywedodd y swyddog sy'n ymchwilio i'r achos, PC Dan Naylor: "Rydym yn chwilio am wybodaeth ar frys yn dilyn y digwyddiad difeddwl hwn a allai fod wedi arwain at obylgiadau llawer mwy difrifol i'r gyrrwr.
"Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen i'n helpu ni i ddod o hyd i bwy bynnag sy'n gyfrifol.
"Ni ddylai unrhyw un deimlo'n anniogel yn y gwaith, ac mae unrhyw ddigwyddiad sy'n ymwneud â staff rheilffyrdd ar ein rhwydwaith yn cael ei ystyried yn ddifrifol dros ben."
Mae Northern Rail yn cynnig gwobr o £1,000 i unrhyw un sy'n darparu gwybodaeth am y digwyddiad.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 531o 04/02/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.