Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:15 15/07/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad tresmasu ger gorsaf reilffordd Leeds a achosodd oedi sylweddol yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 9.55pm ar ddydd Sadwrn 12 Mehefin, cerddodd dyn oddi ar ddiwedd platfform 17 ac ar y traciau. Yna rhedodd i lawr y traciau tua'r gorllewin tuag at Gyffordd Copley Hill.
Achosodd y digwyddiad oedi difrifol i deithwyr, gan gostio £67,000 i'r rheilffordd.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 715 o 12/06/21.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.