Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:38 26/09/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ddyn yng ngorsaf Leeds wedi rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef heddiw.
Roedd y dioddefwr yn sefyll y tu allan i far Wetherspoons ger safle'r tacsis ar ddydd Sadwrn, 27 Awst tua 12.10am pan ddaeth dyn arall ato a'i ddyrnu yn ei wyneb.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 gyda'r cyfeirnod 99 o 16/09/22.
Fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.