Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:49 21/12/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf reilffordd Whalley yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 8.45pm ar ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr, byrddiodd grŵp o ddynion drên tuag at orsaf Whalley a wynebu dyn a menyw ar y trên am y ffaith eu bod yn gwisgo masgiau wyneb.
Wrth i'r trên gyrraedd gorsaf Whalley, fe wnaeth y cwpl adael y trên ac fe'u dilynwyd ar hyd y platfform gan y grŵp. Fe wnaeth un dyn o'r grŵp ymosod ar y dyn, a gafodd anafiadau difrifol i'w wyneb.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 716 o 4/12/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw om 0800 555 111.