Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:35 25/04/2022
Ydych chi'n adnabod y dynion hyn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle ymosodwyd ar dri o bobl gan ddau ddyn yng ngorsaf Milton Keynes Central yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 7.50pm ar ddydd Sadwrn 9 Ebrill, cafodd grŵp o ddynion a oedd yn teithio'n ôl o gêm bêl-droed eu herio gan grŵp arall o bobl ynghylch sylwadau amhriodol a wnaethant i fenyw wrth iddynt adael yr orsaf.
Yna, aeth un o'r dynion i benio dyn o'r grŵp arall a dyrnu menyw, gan dorri ei gên.
Pan geisiodd aelod o'r cyhoedd ymyrryd, fe wnaeth dyn arall o'r grŵp ei daro dros y pen gyda bag yn cynnwys caniau o alcohol.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dynion yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n eu hadnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 568 o 09/04/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.