Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:01 09/08/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yng ngorsaf Birmingham New Street yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am 10.45pm ar ddydd Mercher 30 Mehefin, fe wnaeth dyn gymryd rhan mewn sgwrs gyda grŵp o bobl y tu allan i'r orsaf. Symudon nhw i ardal Moor Street Link yn yr orsaf, a dechreuodd ddadlau gyda'r ddioddefwraig, sef merch yn ei harddegau.
Ceisiodd aelod arall o'r grŵp ymyrryd, a dyrnodd y dyn y ddioddefwraig yn yr wyneb.
Dioddefodd hi asgwrn boch wedi'i dorri ac anafiadau difrifol i'w hwyneb a oedd yn galw am bwythau.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 699 o 30/06/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.