Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:02 12/10/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ladrad ar drên a oedd yn teithio rhwng Preston a Chorley yn rhyddhau delweddau CCTV mewn cysylltiad ag ef.
Tua 5.30am ar ddydd Mawrth 31 Awst, byrddiodd y dioddefwr a dyn ar drên yng ngorsaf reilffordd Preston.
Cymerodd y dioddefwr sedd ar fwrdd y gwasanaeth ac ychydig yn ddiweddarach eisteddodd y dyn wrth ei ymyl a dweud wrtho fod ganddo machete arno ac y byddai'n ei ddefnyddio pe na baddi'r dioddefwr yn cydymffurfio.
Yna gofynnodd i'r dioddefwr drosglwyddo ei gardiau banc a'i rifau PIN, yr hyn a wnaeth drwy ofn.
Gadawodd y dyn a'r dioddefwr y trên yng ngorsaf reilffordd Chorley.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 51 o 31/08/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.