Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:58 18/02/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i drosedd casineb ar fwrdd gwasanaeth DLR wrth iddo nesáu at orsaf Poplar yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Am ychydig ar ôl 9pm ar ddydd Iau 20 Ionawr, roedd y ddioddefwraig yn sefyll wrth ddrysau'r trên pan ddaeth dyn ati gan wneud sylwadau hiliol am ei sgarff pen.
Ychydig yn ddiweddarach, gafaelodd yn ei sgarff pen a cheisiodd ei dynnu i ffwrdd cyn rhwygo ei sach teithio oddi ar ei chefn, gan achosi i'w strap dorri.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 538 of 20/01/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.