Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:06 18/08/2022
Ydych chi'n adnabod y dynion yma?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle cafodd toiledau gorsaf reilffordd Barnstable eu fandaleiddio heddiw yn rhyddhau'r delweddau teledu cylch cyfyng hyn mewn cysylltiad ag ef.
Tua 1am ar 24 Gorffennaf, roeddf dau ddyn yn eistedd ar blatfform yr orsaf yn yfed ac yn ysmygu.
Yna fe wnaethon nhw orfodi mynediad i doiledau'r dynion ac achosi difrod gwerth miloedd o bunnau.
Roedd difrod yn cynnwys wrinalau yn cael eu tynnu oddi ar y wal, ffitiadau golau wedi'u tynnu a llifogi'r cyfleusterau.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dynion yn y delweddau teledu cylch cyfyng fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Os ydych yn eu hadnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 53 o 24 Gorffennaf.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.