Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:27 22/09/2022
Ydych chi'n adnabod y dynion hyn?
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad ar fwrdd gwasanaeth London Overground tua'r gogledd yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Ychydig cyn hanner nos ar 10 Gorffennaf, roedd grŵp o ddynion ifanc yn fêpio ar y gwasanaeth pan wnaeth aelod o'r cyhoedd eu herio.
Yna fe wnaeth dau o'r dynion ddyrnu'r aelod o'r cyhoedd cyn i ail grŵp o ddynion ifanc fyrddio'r trên a chhychwynnodd anghydfod rhwng y grwpiau.
Ar adeg y digwyddiad roedd y gwasanaeth yng ngorsaf Harrow a Wealdstone.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 637 o 10 Gorffennaf.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.