Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:05 22/11/2022
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad lle gwnaeth dyn boeri ar aelod o staff y rheilffyrdd yn rhyddhau'r ddelwedd hon mewn cysylltiad ag ef.
Am 3.30pm ar 30 Medi, dringodd dyn dros ffens yng ngorsaf reilffordd Sittingbourne i'w phlatfform er mwyn osgoi'r rhwystrau tocynnau.
Aeth staff y rheilffyrdd at y dyn a'i hebrwng allan o'r orsaf. Wrth iddo fynd drwy'r neuadd archebu fe drodd a phoeri ar un o aelodau'r staff cyn gadael yr orsaf.
Mae swyddogion yn credu y gallai'r dyn yn y ddelwedd CCTV fod â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych yn ei adnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 355 o 30 Medi.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.