Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:30 11/03/2021
Ydych chi'n adnabod y fenyw hon?
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad ar fwrdd gwasanaeth a oedd yn teithio rhwng Chatham a Gillingham, Caint, yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng mewn cysylltiad ag ef.
Ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr 2020 tua 9pm, daeth menyw at y ddioddefwraig a'i merch a cheisiodd y fenyw werthu watsh iddi. Gwrthododd y ddioddefwraig, a cherddodd y fenyw i fyny'r cerbyd cyn dod yn ôl at y ddioddefwraig a cheisio cipio ei bag.
Llwyddodd y ddioddefwraig i gael ei bag yn ôl, ond cwympodd eitem o ddillad allan. Gafaelodd y fenyw yn yr eitem ac wrth geisio ei chael yn ôl cafodd y ddioddefwraig ei dyrnu yn ei hwyneb dro ar ôl tro cyn i deithiwr arall ymyrryd.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y fenyw yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei hadnabod, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 543 o 05/12/20.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.