Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:48 25/03/2021
Ydych chi'n adnabod y dynion hyn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ddigwyddiad ar fwrdd gwasanaeth Central Line Tube a oedd yn teithio rhwng gorsafoedd Marble Arch a Shepherd’s Bush yn rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng.
Am 10.30pm ar ddydd Sadwrn 6 Mawrth, aeth tri dyn at y ddau ddioddefwr ar fwrdd y trên. Fe wnaethant awgrymu bod ganddynt gyllell a cheisio cymryd cotiau a bagiau’r dioddefwyr.
Gwrthododd y dioddefwyr roi eu heiddo i'r dynion cyn i'r tri dyn ymosod ar y dioddefwyr, gan eu dyrnu'n barhaus.
Fe wnaeth y dioddefwyr adael y Tube yng ngorsaf Shepherd’s Bush a rhedeg trwy'r allanfa.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 17 o 07/03/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.