Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:04 05/09/2022
Wythnos ymlaen ers digwyddiad difrifol yng ngorsaf Kings Cross Underground, mae ditectifs yn annog mynychwyr Carnifal Notting Hill a welodd yr hyn a ddigwyddodd i ddod ymlaen a chynorthwyo'r ymchwiliad.
Cafodd swyddogion eu galw i blatfform llinell Hammersmith a City am 1.26pm ar ddydd Llun 29 Awst yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad difrifol yn ymwneud â dyn a menyw ar y platfform.
Ers hynny mae dyn 41 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio. Mae Arthur Hawrylewicz, o Erddi Avondale, Caerdydd, yn parhau yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Mike Blakeburn o Dîm Troseddau Mawr, Difrifol a Threfnedig BTP: "Mae ein hymchwiliad yn parhau ar gyflymder ers y digwyddiad yng ngorsaf Kings Cross Underground yr amser hwn yr wythnos ddiwethaf.
"Rydyn ni'n gwybod ar adeg y digwyddiad, bod y platfform yn hynod o brysur gyda theithwyr yn mynychu Carnifal Notting Hill. Hoffwn wneud ple uniongyrchol i unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd ac nad yw eisoes wedi siarad â'r heddlu i ddod ymlaen, gan y gallai'ch cyfrif fod yn hanfodol i'n hymchwiliad.
"Cysylltwch â ni drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 266 o 29/08/22. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."