Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:49 18/08/2022
Mae ditectifs yn apelio ar frys am wybodaeth i adnabod dyn a fu farw'n anffodus yn dilyn digwyddiad ar y lein ger Monxton.
Am 1.12am ar ddydd Llun 15 Awst, cafodd swyddogion eu galw i'r llinell ger Monxton yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.
Fe wnaeth parafeddygon fynychu hefyd, ond yn anffodus, datganwyd bod dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus, ond er gwaethaf ymholiadau helaeth nid yw swyddogion wedi gallu adnabod y dyn ac olrhain ei deulu i'w hysbysu o'r newyddion trist hyn.
Cafwyd hyd i'r dyn yn gwisgo jîns glas gyda gwregys brown a chrys-t glas tywyll. Roedd yn gwisgo esgidiau Clarks, maint 10, ac mae ganddo wallt brown sy'n llwyd ar y gwreiddiau.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un sy'n poeni am berson o'r ardal hon, gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 32 o 15/08/22.