Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:40 28/01/2022
Mae ditectifs yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad rhywiol ar fenyw ar y Tube ar linell Bakerloo yng ngorsaf Charing Cross Underground.
Am 8.30pm ar ddydd Mercher 26 Ionawr, roedd ffrae ar y trên rhwng dyn a menyw pan ymosodwyd yn rhywiol ar y fenyw.
Mae un dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â hi.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un ar fwrdd y trên a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a all gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 531 of 26/01/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.