Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:16 09/09/2021
Mae ditectifs yn apelio am dystion ar ôl ymosodiad rhywiol ar fenyw ar drên a oedd yn teithio o Lundain i Glasgow.
Am 9.55pm ar ddydd Mawrth 24 Awst, aeth dyn at fenyw gan wneud sylwadau amhriodol tuag ati. Yna ymosododd arni'n rhywiol a gadael y trên yn Glasgow Central.
Disgrifir y dyn fel dyn gwyn yn ei 40au hwyr, tua 5'7, gyda gwallt brown byr a man geni nodedig ar ochr dde ei wyneb. Roedd yn gwisgo crys polo llwyd tywyll gyda siaced lledr ddu a jîns glas.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymchwiliad.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 200 o 25/08/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.