Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:23 08/11/2022
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thri pherson ar y cledrau rheilffordd yng ngorsaf Canley.
Am 1.15pm ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, cafodd swyddogion eu galw i orsaf Canley yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi'i anafu ar y cledrau.
Mynychodd parafeddygon hefyd, fodd bynnag, yn anffodus cafodd menyw ei datgan yn farw yn y fan a'r lle. Mae ei pherthnasau agosaf wedi cael gwybod ac nid yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae swyddogion yn credu bod dau berson arall ar y traciau ar adeg y digwyddiad, ac maen nhw'n apelio ar dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, i gysylltu er mwyn cynorthwyo eu hymholiadau.
Gofynnir i dystion gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 206 o 05/11/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.