Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:32 26/09/2022
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yng Ngorsaf Reilffordd Worksop yn apelio am dystion.
Ar ddydd Sadwrn 3 Medi am tua 8.30pm cafodd dyn 25 oed ei ymlid ac yna ei ddyrnu wrth aros ar blatfform dau yng Ngorsaf Reilffordd Worksop.
Cafodd y dioddefwr lygad ddu.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200090121.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.