Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:54 02/09/2021
Mae ditectifs yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad rhywiol ar drên a oedd yn teithio o Gaerliwelydd i orsaf Dumfries.
Tua 9.15pm ar ddydd Sadwrn 28 Awst, ymosodwyd yn rhywiol ar y dioddefwr gan ddyn ar y trên.
Mae'r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tua 40-50 oed, o gorffolaeth fain gyda gwallt llwyd byr. Ar y pryd roedd yn gwisgo crys gwyn gyda bresys Chanel, trowsus du, esgidiau Dr Martens a lensys cyffwrdd â lliw porffor.
Ar y pryd roedd y gwasanaeth yn brysur gyda theithwyr, mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i helpu eu hymchwiliad.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 695 o 28/08/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.