Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:06 06/10/2021
Heddiw mae swyddogion sy'n ymchwilio i ymosodiad yn erbyn aelod o staff y rheilffyrdd yng ngorsaf Brighton yn apelio am dystion.
Am 5.05pm ar ddydd Mawrth 24 Awst, cafodd yr aelod o staff y rheilffyrdd ei alw i'r llwyfan i gynorthwyo dau berson ifanc. Ar ôl siarad â nhw a rhoi gwybodaeth am deithio iddynt, symudodd y bobl ifanc i ffwrdd i lwyfan arall.
Aeth atyn nhw eto a gofyn i ble roedden nhw'n teithio, pan wnaeth un o'r bobl ifanc ei daro ddwywaith yn ei wyneb a'i daro i'r llawr.
Aeth y dioddefwr i'r ysbyty, gan ddioddef trwyn wedi'i dorri a chleisio.
Disgrifir y dyn ifanc fel dyn gwyn, gyda gwallt brown tywyll ac o gorffolaeth denau. Roedd yn gwisgo siaced gwyn a llwyd â chwfl, gyda throwsus llwyd, treinyrs, a bag lliw tywyll.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 438 o 24/08/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.