Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:40 06/09/2021
Ydych chi'n adnabod y dyn hwn?
Heddiw mae swyddogion sy’n ymchwilio i ddigwyddiad lle gwnaeth dyn achosi £1,800 o ddifrod i lifft yng ngorsaf reilffordd Prestatyn yn rhyddhau’r delweddau hyn mewn cysylltiad.
Ychydig ar ôl 1am ar ddydd Llun 16 Awst, aeth y sawl a ddrwgdybir i mewn i'r lifft yn yr orsaf, cyn troethi yn y gornel yn hwyrach. Am 5.40am, fe wnaeth gynnau tân yn y lifft a doddodd y llawr, gan achosi difrod gwerth £1,800.
Ar ôl gofyn iddo adael yr orsaf, fe wnaeth gam-drin aelod o staff rheilffyrdd ar lafar.
Mae swyddogion yn credu y gallai fod gan y dyn yn y delweddau teledu cylch cyfyng wybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad.
Os ydych chi'n ei adnabod, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 79 o 16/08/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111.