Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:01 27/10/2021
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth ar ôl lladrad treisgar oddi wrth ddyn yng ngorsaf reilffordd Knaresborough.
Tua 6.25pm ar ddydd Sadwrn 25 Medi fe fu anghydfod rhwng y dioddefwr a grŵp o bobl eraill ar blatfform yr orsaf.
Fe wnaeth y grŵp ddwyn ei eiddo personol, gan gynnwys ei waled.
Disgrifir un dyn yn y grŵp fel gwyn, yn ei ugeiniau cynnar, o gorffolaeth fain ac yn gwisgo top a thowsus tracwisg llwyd.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 529 of 25/09/21.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.