Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:38 23/09/2022
Mae swyddogion yn apelio am dystion wedi i ymosodiad rhywiol ddigwydd ar drên yn Hwlffordd yng Nghymru.
Rhwng 9.50-10.10pm ar ddydd Iau 11 Awst adroddwyd y bu ymosodiad rhywiol ar blentyn gan ddyn a wnaeth ei chyffwrdd pan oedd ar y trên.
Yna cafodd y trên ei gwrdd gan swyddogion gorsaf Hwlffordd a arestiodd dyn 34 oed mewn cysylltiad ag ef. Ers hynny mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau pellach yn parhau.
Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad, yn enwedig y teithiwr a roddodd wybod i warchodwr y trên. Maen nhw hefyd yn ceisio olrhain dioddefwraig yr ymosodiad rhywiol.
Os oeddech yn dyst i'r digwyddiad, neu os oes gennych wybodaeth a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 673 o 11/08/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.