Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:25 31/05/2022
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ladrad ar groesfan lefel Thorne Moorends yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth.
Ychydig ar ôl 4pm ar 17 Mai, roedd y dioddefwr, aelod 66 oed o staff y rheilffordd, yn dychwelyd i'w cherbyd a oedd wedi'i barcio yn y lleoliad pan aeth dyn ati hi gan fynnu allweddi ei char.
Yna, dyrnodd y ddioddefwraig a gafael yn yr allweddi cyn gyrru i ffwrdd yn ei char.
Gadawyd y cerbyd yn Doncaster tua 7.45pm ar yr un noson.
Disgrifir y dyn fel dyn gwyn, yn ei ugeiniau, tua phum troedfedd saith, a chyda gwallt brown golau neu sinsir wedi'i eillio ar yr ochrau.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad i gynorthwyo eu hymholiadau.
Os gwelsoch y digwyddiad, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 403 o 17/05/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.