Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs ar frys yn ceisio adnabod dynes a fu farw’n drist iawn yng ngorsaf East Didsbury neithiwr (23 Mai).
Cafodd swyddogion eu galw i’r orsaf am 10.41pm yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi’i hanafu ar y cledrau.
Mynychodd parafeddygon hefyd ond yn anffodus cyhoeddwyd bod y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle. Nid oes unrhyw amgylchiadau amheus.
Er gwaethaf eu hymdrechion gorau nid yw ditectifs wedi gallu adnabod y ddynes eto, ac maent bellach yn apelio am gymorth y cyhoedd.
Disgrifir y ddynes fel un o gorffolaeth mawr; roedd rhwng 40 a 50 oed gyda gwallt byr, tywyll, a sbectol. Roedd yn gwisgo top blodeuog, legins du, esgidiau pinc Gola ac roedd ganddi fag llaw Ori Loosen porffor.
Roedd hi hefyd yn gwisgo mwclis nodedig y mae swyddogion yn rhyddhau delwedd ohono ac yn cario poteli babanod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Wright: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino i geisio adnabod y ddynes fel y gallwn hysbysu ei hanwyliaid.”
“Roedd hi’n gwisgo nifer o eitemau nodedig a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai’r disgrifiad hwn swnio’n gyfarwydd i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
“Gallwch gysylltu â HTP drwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu cyfeirnod 687 o 23/05/23.”