Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:26 28/04/2022
Heddiw, mae swyddogion sy'n ymchwilio i ddigwyddiad ar drên o Stratford i Rayleigh yn apelio am ragor o wybodaeth.
Ychydig wedi hanner nos ar nos Fercher 13 Ebrill roedd dau ddyn yn achosi aflonyddwch wrth fyrddio'r trên, rhegi a dal drysau'r trên ar agor.
Pan oedden nhw ar y trên, gwthiodd un o'r dynion ddyn arall allan o'r ffordd i eistedd i lawr. Roedd y dyn arall yn bygwth teithwyr gyda photel win ac yn pinio teithiwr gwrywaidd arall yn erbyn ochr y trên mewn modd ymosodol.
Nid yw'r dioddefwyr wedi cysylltu â'r heddlu eto ac er gwaethaf ymholiadau lleol, nid yw swyddogion wedi gallu eu hadnabod. Mae swyddogion yn apelio arnyn nhw i ddod ymlaen i gynorthwyo'r ymchwiliad.
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â BTP trwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 10 o 13/04/22.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.