Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyfarfodydd PACT (Yr Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd) yn cael eu cynnal yn rheolaidd gan eich Tîm Plismona Cymdogaeth. Mae croeso bob amser i aelodau'r cyhoedd fynychu.
Mae eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ag aelodau o'r gymuned, staff gorsafoedd, manwerthwyr a chynrychiolwyr cwmnïau gweithredu trenau i helpu i benderfynu ar y ffordd orau o fynd i'r afael â materion plismona yn eich ardal.
Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i swyddogion siarad â theithwyr am faterion cyfredol, a gyda'i gilydd maent yn gosod y blaenoriaethau plismona ar gyfer eu cymdogaeth.
Nodir materion lleol a gosodir blaenoriaethau plismona. Fel arfer, bydd gan Dîm Plismona Cymdogaeth uchafswm o dair blaenoriaeth.
Gan weithio gyda chynrychiolwyr o'r gymuned leol, bydd ein swyddogion yn cynllunio'r ffordd orau o ymgysylltu â'r gymuned leol a sut i gyflawni pob blaenoriaeth.
Bydd swyddogion hefyd yn egluro pa gamau a gymerwyd i ddatrys materion ac, ynghyd â'r cynrychiolwyr cymunedol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ymdriniwyd â blaenoriaeth yn llwyddiannus.
Yn dibynnu ar faint eich cymdogaeth, gall cyfarfodydd PACT gael eu cynnal bob chwarter, neu mor aml ag unwaith y mis.
Ewch i'chtudalen tîm BTP Lleoli ganfod pryd fydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn agos atoch chi.