Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cadetiaid Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn grŵp ieuenctid mewn iwnifform ar gyfer y rhai 13-17 oed sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau. Mae Cadetiaid Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cwrdd yn wythnosol i ddysgu sgiliau plismona a helpu cymunedau lleol.
Ar hyn o bryd mae gennym bedwar grŵp - un yn Birmingham, un yn Llundain (Islington), un yn Efrog ac un yn Glasgow. Anogir pobl ifanc o bob cefndir i ymgeisio.Mae'r rhai 18 oed ac yn hŷn yn gymwys i ddod yn arweinwyr cadetiaid.
Os ydych chi am helpu i wella'ch cymuned leol, bod gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am sut mae'r heddlu'n gweithio, neu'r gyfraith, mae'r cynllun hwn ar eich cyfer chi.
Rydym hefyd yn cynnig gwobrau a chymwysterau megis Gwobr Dug Caeredin a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ieuenctid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed ymuno.
Mae'r rhai 18 oed ac yn hŷn yn gymwys i ddod yn arweinydd cadetiaid. Mae bod yn arweinydd cadetiaid yn gyfle i ddatblygu'ch sgiliau arwain, helpu pobl ifanc ac ysbrydoli'r genhedlaeth blismona nesaf.
Rydym yn cwrdd bob wythnos yn ystod y tymor. Rydym yn disgwyl y bydd pob cadét ac arweinydd cadetiaid yn gwirfoddoli am o leiaf tair awr y mis, ar gyfartaledd, y tu allan i gyfarfodydd wythnosol.
Mae'r Cadetiaid yn cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau gwirfoddoli amrywiol, o weithgareddau cymunedol lleol i achlysuron gyda chynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol hyd yn oed. Mae rhai gweithgareddau y byddwch yn disgwyl cymryd rhan ynddynt yn cynnwys:
Byddwch, rydym yn grŵp ieuenctid mewn iwnifform ac mae'r iwnifform yn rhan o'n hunaniaeth fel rhan o'r teulu plismona estynedig.
Nid yw ymuno â'r Cadetiaid yn gynllun mynediad uniongyrchol i wasanaeth yr heddlu. Fodd bynnag, bydd yn rhoi cipolwg i chi ar blismona, yn adeiladu eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch gyrfa.
Nac ydy. Mae pobl ifanc yn ymuno â ni am lawer o wahanol resymau, llawer er mwyn gallu gweithio yn eu cymunedau neu ennill gwobrau a chymwysterau.
Gallwch, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drafferth yr ydych wedi bod ynddo. Rydym yn ceisio darparu rhaglen hollgynhwysol a byddwn yn cefnogi pobl ifanc sydd am wneud newid.
I wneud cais i fod yn gadét neu'n arweinydd Cadetiaid e-bostiwch [email protected].