Mae'r Cynllun Achredu Diogelwch y Rheilffyrdd (RSAS) yn caniatáu i ni achredu cyflogeion sefydliadau sy'n ymwneud â diogelwch y rheilffyrdd, sy'n helpu ein swyddogion i ganolbwyntio ar eu dyletswyddau rheng flaen.
Mae ein cynllun achredu yn ein helpu i fynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel, gwella cudd-wybodaeth a chynyddu hyder y cyhoedd.
Yn benodol, mae sefydliadau a chyflogeion sydd wedi'u hachredu gan RSAS yn ein helpu trwy:
- Arfer pwerau cyfyngedig sy'n ein helpu i fynd i'r afael ag anghwrteisi ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Darparu presenoldeb amlwg iawn ar y rheilffordd, lleihau troseddu a rhoi sicrwydd i deithwyr.
- Mynd i'r afael â materion penodol ar unwaith, heb gynnwys swyddog heddlu.
- Helpu i ddatrys materion lleol: gall staff achrededig y rheilffyrdd helpu i rannu gwybodaeth, gan ganiatáu i ni fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar gymunedau rheilffyrdd lleol a'u blaenoriaethu.
Aelodau'r cynllun RSAS
Ar hyn o bryd mae chwe chwmni gweithredu trenau a chwmnïau diogelwch lluosog sydd wedi'u hachredu gan ein cynllun:
- Transport for London (TfL)
- SouthEastern Trains
- Southern/GTR
- South West Trains
- East Midlands Trains
- Virgin Trains East Coast
- STM Security
- Carlisle Security
- MAN Commercial Protection
- Churchill Security
- Ultimate Security
- Land Sheriffs
- Pro-Active Recruitment
- Black Diamond Security.
Buddion RSAS
Mae ein Cynllun Achredu Diogelwch y Rheilffyrdd (RSAS) yn ein helpu i greu rhwydwaith rheilffyrdd mwy diogel ar gyfer cyflogeion a theithwyr.
- Cydnabod bod cwmnïau sy'n ymwneud â diogelwch y rheilffyrdd yn bodloni safonau rheoli, goruchwylio ac atebolrwydd.
- Gwell perthnasoedd gwaith gyda phawb sy'n ymwneud â darparu patrolau diogelwch ar y rheilffyrdd, gan arwain at ddatblygu gwasanaeth mwy cydgysylltiedig ac effeithiol.
- Gall staff achrededig fynd i'r afael â materion penodol yn y fan a'r lle heb gyfranogiad BTP.
- Mae rhannu cudd-wybodaeth yn cynorthwyo pob asiantaeth i weithio gyda'i gilydd i ddatrys problemau lleol a diwallu anghenion staff, swyddogion a theithwyr.
- Cydnabod nodau sefydliad a'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae wrth gynyddu diogelwch teithwyr a lleihau troseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Grymuso cyflogeion, gan ei gwneud yn haws iddynt wneud gwaith da ac yn codi eu proffil o fewn y gymuned reilffordd.
- Mwy o hyder ymhlith cyflogeion, â hyfforddiant o ansawdd uchel gan gynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu a thechnegau ar gyfer datrys gwrthdaro.
- Cydnabod bod ymddangosiad, ansawdd a hyfforddiant cyflogeion yn diwallu safon uchel.
- Defnyddio arwyddlun a gydnabyddir yn genedlaethol.
- Gwell datblygiad gyrfa i bobl achrededig sydd â sgiliau ac amrywiaeth newydd i'w gwaith.
Cwmnïau cymwys
Unrhyw gwmni neu sefydliad gweithredu trenau sy'n ymwneud â diogeledd neu ddiogelwch rheilffyrdd yn y DU.
Mae angen argymell y cwmni sy'n gwneud cais i ymuno â RSAS mewn adroddiad gan yr Heddlu CPI Cyf.
Mae'n ofynnol i gwmnïau diogelwch fod â chontract gyda gweithredwr trenau neu gynigion/argymhellion yn eu lle.
Gofynion ar gyfer pobl achrededig
Mae angen i bobl achrededig gael eu cyflogi gan gwmni gweithredu trenau neu ddiogelwch sy'n rhan o RSAS. Mae angen iddynt hefyd basio gwiriadau fetio a gynhelir gan BTP yn ogystal â chwrs hyfforddi RSAS.
Personau achrededig: pwerau
Mae angen gofyn am bwerau a maent yn amrywio o'r naill cwmni i'r llall gan fod angen iddynt fod yn briodol i rôl sy wydd a gyflawnir. Nid yw dod yn aelodau o RSAS yn rhoi hawl awtomatig i gwmni ddefnyddio pwerau gan y bydd angen i'r prif gwnstabl roi'r rhain.
Nid oes gan bersonau achrededig bwerau arestio penodol ond mae ganddynt bŵer arestio cyffredinol y dinesydd. Fodd bynnag, nid oes disgwyl y bydd y pŵer hwn yn cael ei arfer fel rhan o'r cynllun.
Terfynau aelodaeth
Nid oes unrhyw ofyniad sylfaenol penodol, ac nid oes terfyn ar nifer y staff y gellir eu hachredu. Mae rhai cwmnïau'n achredu tua chwech i ddeg aelod o staff ac i ddechrau mae eraill wedi dechrau ag oddeutu 35 aelod o staff. Ar hyn o bryd mae rhai cwmnïau'n cynyddu eu niferoedd i oddeutu 90 o bobl achrededig.
Rheoli
Llofnodwr awdurdodedig fydd y person dynodedig ar gyfer y cwmni a bydd yn gyfrifol am lofnodi dogfennau perthnasol a chysylltu â ni. Bydd arolygydd hefyd ar gyfer ardal sy'n gofalu am y cynllun o ddydd i ddydd, yn ogystal â'r Adran Plismona Cyflenwol.
Y broses RSAS
Rhaid i ymgeiswyr fynd trwy brosesau amrywiol:
- Mae'r cwmni'n cofrestru diddordeb mewn ymgeisio am RSAS.
- Bydd cynrychiolwyr o ddarpar gwmnïau yn cwrdd â'r chydlynydd NP ac RSAS i drafod y broses.
- Mae’r cwmni’n gwneud cais ac yn cael ei adolygu gan Police CPI Ltd [Heddlu CPI Cyf ]. Mae Police CPI Ltd yn anfon adroddiad gyda’u hargymhellion at brif gwnstabl BTP. Cwblheir adolygiad Police CPI Ltd ar ôl y flwyddyn gyntaf ac eto bob 3 blynedd.
- Mae'r cwmni'n cyflwyno eu cais am bwerau i'r cydlynydd NP & RSAS â thystiolaeth ategol i'w chyflwyno i'r prif gwnstabl i'w gymeradwyo.
- Os yw prif gwnstabl BTP yn rhoi cymeradwyaeth i'r pwerau y gofynnwyd amdanynt, cwblheir ffurflenni fetio er mwyn i'r staff perthnasol gael eu hachredu. Mae'r fetio ar NPPV Lefel 2 ac yn cael ei brosesu gan Adran Safonau Proffesiynol (PSD) BTP. Mae fetio unigol yn ddilys ar gyfer 5 mlynedd ond mae angen ffurflen hunan-ddatganiad flynyddol.
- Os bydd unigolyn yn methu eu proses fetio gellir gofyn am adolygiad. Os cadarnheir y canlyniad yna ni ellir eu hachredu ac os oeddent wedi'u hachredu, tynnir eu hachrediad yn ôl.
- Os yw unigolion yn pasio'r fetio, yna mae'n rhaid i'r cwmni eu hanfon ar hyfforddiant RSAS. Yna dylid anfon copi o'u tystysgrif hyfforddi a'u llun pasbort ar gyfer ID at y cydlynydd NP ac RSAS a fydd yn archebu cardiau adnabod yr unigolyn a'u hanfon ymlaen at y cwmni. Mae cardiau pwerau hefyd yn cael eu cynhyrchu a'u harchebu'n barod i'w rhoi i'r unigolion achrededig.
- Gweithredu'r cynllun yn llwyddiannus. Bydd y cydlynydd NP ac RSAS yn cwrdd yn rheolaidd â'r TOC/Cwmni Diogelwch, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg yn effeithiol a gweithio mewn partneriaeth agos.