Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth ein swyddog benywaidd cyntaf, y Rhingyll Margaret Hood, dyngu llw gyda Rheilffordd y Great Eastern ym mis Mai 1917.
Dechreuodd menywod blismona'r rheilffyrdd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan alwyd llawer o swyddogion heddlu gwrywaidd y rheilffyrdd i wasanaethu ar y rheng flaen. Er bod swyddogion heddlu benywaidd yn cyflawni dyletswyddau tebyg i ddynion, roeddent hefyd yn delio â throseddwyr benywaidd a materion yn ymwneud â menywod a phlant.
Gostyngodd nifer y swyddogion benywaidd ar ôl y rhyfel wrth i'r dynion ddychwelyd, ond cynyddu eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym 1946, cydnabuwyd bod menywod yn cyflawni rôl bwysig ym maes plismona rheilffyrdd a daeth rôl WPC i gael ei sefydlu a'i hyrwyddo'n gadarn.
Gan symud ymlaen yn gyflym i'r cyfnod presennol, mae gennym dros 1,500 o fenywod yn cael eu cyflogi fel swyddogion heddlu, staff a chwnstabliaid arbennig ledled y wlad.