Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein Huned Ymateb Arbenigol yn ymateb i adroddiadau am eitemau heb oruchwyliaeth ar y rheilffordd. Maent yn asesu pecynnau, bagiau a sylweddau megis arogleuonl, powdrau, hylifau a chemegau anarfero.
Mae ein SRU yn unigryw o fewn maes plismona Prydain oherwydd y sbectrwm eang o ddigwyddiadau y maent yn ymateb iddynt.
Os bydd pecyn neu sylwedd heb oruchwyliaeth yn cael ei ganfod ar y rheilffordd, bydd yr SRU yn casglu gwybodaeth i benderfynu a ellir clirio'r eitem fel eiddo coll neu a oes angen galw adnoddau arbenigol ychwanegol, megis arbenigwyr gwaredu ordnans ffrwydrol.
Gall swyddogion SRU ddelio'n gymesur â digwyddiad i sicrhau y gall teithwyr rheilffordd ac aelodau staff deithio'n ddiogel.
Mae gan yr SRU y gallu technegol i asesu pecynnau, bagiau, arogleuon amheus, powdrau, hylifau a chemegau ac yna penderfynu a oes angen galw arbenigwr EOD i mewn. Gellir cwblhau'r broses gyfan hon yn gyflym heb gyfaddawdu ar ddiogelwch ac mae'n atal tarfu ar y rhwydwaith yn fwy na sydd ei angen.
Isod mae cipolwg ar rywfaint o'r cyfarpar y mae swyddogion SRU yn ei ddefnyddio.