Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Apple App Store a Google Play Store
Mae'r ap Railway Guardian am ddim yn eich helpu i riportio trosedd i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ac yn rhoi gwybodaeth am beth i'w wneud os gwelwch aflonyddu rhywiol ar drenau neu mewn gorsafoedd.
Helpwch i wneud trenau a gorsafoedd yn fwy diogel i bawb. Lawrlwytho'r ap.
Mae ap Railway Guardian yn ffordd o roi gwybod i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig am droseddau. Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw'r heddlu cenedlaethol ar gyfer trenau, tiwbiau a thramiau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Ar y trên, efallai y byddwn yn clywed rhywun yn gwneud sylwadau rhywiol yn gyson i deithiwr arall neu'n eu gweld yn eu dilyn drwy'r cerbyd pan ydynt wedi'i gwneud yn glir nad ydynt am siarad.
Efallai y gwelwn rywun yn sefyll yn rhy agos yn fwriadol, yn rhwbio yn erbyn rhywun neu'n ceisio "uwchsgertio" (tynnu lluniau i fyny ddillad rhywun).
Mae'r rhain i gyd yn ffyrdd diogel o fod yn wir i chi'ch hun a helpu person arall.
Mae eich diogelwch yn bwysig: pan ydych chi'n helpu rhywun mae'n bwysig cadw'n ddiogel eich hun. Cofiwch bob amser, nid oes rhaid i chi gamu i mewn – gallwch helpu drwy riportio'r hyn a welwch i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Gwyddom y gall aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus gael effaith wirioneddol ar y rhai sy'n ei brofi a gall effeithio ar ba mor ddiogel a hyderus rydych chi'n teimlo. Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr aflonyddu rhywiol yn cael gwasanaeth cyson a chefnogol ta waeth ble maent yn y wlad neu pan fydynt yn riportio'r hyn sydd wedi digwydd iddynt.
Mae'n cymryd dewrder i riportio aflonyddu rhywiol ac mae unrhyw beth sydd wedi gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus yn werth ei riportio. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.