Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Prif Gwnstabl Lucy D'Orsi yn esbonio pam mae mynd i'r afael â phob math o ymddygiad rhywiol digroeso ar y rheilffyrdd a rhwydweithiau tanddaearol yn flaenoriaeth iddi yn ei rôl fel Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Ar fy nghymudiad trên yr wythnos hon, cymerais ychydig eiliadau i fyfyrio ar y digwyddiadau sydd wedi dal y penawdau dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Edrychais o gwmpas ar fy nghyd-deithwyr benywaidd ac fe’m trawodd a ychwanegodd at y nerfusrwydd naturiol wrth ddychwelyd i wasanaethau trên ar ôl y cyfnod cloi, efallai eu bod hefyd yn nerfus ynghylch eu diogelwch eu hunain.
Mae ystadegau'n dangos bod pobl yn profi llai o droseddau rhywiol ac ymddygiad rhywiol digroeso arall (YRD) ar drenau nag mewn lleoedd cyhoeddus eraill. Mae fy neges yn glir: rhaid bod gennym ni ddim goddefgarwch tuag at droseddu rhywiol a YRD ar y rhwydwaith reilffyrdd a tanddaearol. Dylai fod gan bawb yr hyder i deithio'n ddiogel a heb ofni aflonyddu nac ymosodiad, ble bynnag a phryd bynnag maen nhw'n hoffi.
Rhaid i bawb chwarae rhan wrth greu amgylchedd gelyniaethus i'r rhai y mae eu gweithredoedd a'u geiriau yn is na'r hyn y mae cymdeithas yn ei ofyn ac mae'r gyfraith yn ei ddisgwyl. Yng nghyd-destun gwrthsefyll y bygythiad a achosir gan derfysgwyr, rydym, ers degawdau, wedi adlewyrchu bod “cymunedau” yn trechu terfysgaeth. Nid yw trechu ymddygiad rhywiol digroeso yn wahanol. Gall ein cymunedau a'n teithwyr ei drechu ac mae gan bob un rhan i'w chwarae.
Mae BTP eisiau clywed gan y rhai sy’n ddioddefwyr neu’n dystion o ‘ymddygiad rhywiol digroeso’ sy’n cynnwys cam-drin geiriol, sgyrsiau amhriodol neu syllu hir neu anniddig neu ‘leering’. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod tan-adrodd sylweddol, felly mae'n anodd sefydlu gwir faint yr ymddygiad troseddol. Mewn ymchwil a gynhaliwyd gan Rail Delivery Group, datgelodd mewnwelediadau bod lefelau normaleiddio uchel yn golygu bod pobl wedi dod i ddisgwyl a derbyn sylw rhywiol digroeso mewn mannau cyhoeddus. Rhaid i hyn newid.
Mae BTP wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr pob math o droseddau rhywiol, ymddygiad rhywiol digroeso a cham-drin domestig, yn derbyn gwasanaeth cyson a chefnogol gennym ni pan fyddant yn ei riportio.
Wrth i ni ddod allan o gyfnod cloi gyda'r map ffordd i'r dirwedd ôl-bandemig, mae gennym gyfle i fod yn gryfach yn ein hanoddefgarwch o ymddygiad rhywiol, aflonyddu ac ymosod digroeso. Rydym yn gweld cyfradd gydymffurfio 95% o fasgiau wyneb ar y rhwydwaith reilffyrdd, sy'n dangos yn glir y gallwn, gyda'n gilydd, gael effaith enfawr.
Er mwyn creu amgylchedd gelyniaethus i'r rheini sy'n bwriadu cyflawni troseddau rhywiol neu ymddygiad rhywiol digroeso, byddwn yn gofyn i bawb roi gwybod amdano. Wrth i weithwyr ddychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus, myfyrwyr i brifysgolion ac ysgolion, gall pawb chwarae rhan wrth ailosod ymddygiadau trwy annog riportio dioddefwyr a thystion a hyrwyddo dim goddefgarwch. Ydych chi'n chwarae eich chi?
Byddwn yn annog pawb i roi gwybod amdano i'w atal trwy anfon neges destun at 61016 (deialwch 999 mewn argyfwng).